Carneddau: Gwaith jac-y-neidiwr / Himalayan balsam work - Hyfforddiant achrededig Jac y Neidiwr ymarferol AM DDIM / FREE practical Himalayan balsam accredited training, Bethesda
Ymunwch â ni am ddiwrnod ymarferol yn taclo Jac y Neidiwr, ac am gyfle i gymryd rhan yn ein hyfforddiant achrededig AM DDIM ar reoli rhywogaethau ymledol. Rydym yn croesawu pobl sydd â phrofiad blaenorol o jac-y-neidiwr yn ogystal â’r sawl sy’n newydd i’r planhigyn. Bydd hon yn sesiwn ymarferol a rhyngweithiol gyda chyfle i rwydweithio gyda phobl o’r un anian. Mae Jac y Neidiwr yn blanhigyn anfrodorol ymosodol, sy'n cystadlu efo planhigion eraill, yn lleihau bioamrywiaeth ac yn ansefydlogi ecosystemau. Gall hefyd arwain at erydu glannau afonydd a gostyngiad yn ansawdd dŵr afonydd. Lefel ffitrwydd - hawdd Cofrestrwch rwan! |
Join us for a practical day tackling Himalayan balsam, and for an opportunity to take part in our FREE accredited training on controlling invasive species. Fitness level - easy Register now! |