Caru Eryri - digwyddiadau / Care for Snowdonia - events - Gorsfa Bwydo Marathon Eryri 2024 / Eryri Marathon 2024 Feed Station, Rhyd Ddu

Mae Caru Eryri yn mynd i fod yn cynnal Gorsfa Bwydo Marathon Eryri 2024, yn Rhyd Ddu.

Mae hwn yn ddigwyddiad lleol eiconic, gyda miloedd o redwyr yn cyrraedd Eryri pob blwyddyn i redeg y cwrs gwych yma.
Mae’r marathon yn cael ei gynnal gan griw o wirfoddolwyr lleol, ac mae pob Orsaf Fwydo yn cael ei redeg gan fudiadau a clybiau lleol, sy’n derbyn rhodd ariannol am helpu cynnal y ras.

Byddwn ni fel criw Caru Eryri yn gyfrifol am orsaf bwydo Rhyd Ddu, fydd o flaen y Cwellyn Arms!
Mae pob offer yn cael ei ddarparu – yr oll sydd ei angen ydi digon o ddwylo a brwdfrydedd i annog y rhedwyr ymlaen ar eu taith!
Ein rôl fydd gosod yr orsaf yn barod, rhoi dŵr i’r rhedwyr wrth iddynt fynd heibio, a chlirio’r holl offer a’r orsaf wedi i’r holl redwyr fynd heibio.
Mae’n bwysig iawn i’r trefnwyr fod popeth y cael ei glirio yn drylwyr fel nad oes ol bod ras wedi bod yno – mae hyn yn cyd-fynd gydag ethos Caru Eryri.

Mae’n ddiwrnod hwyliog a cymdeithasol. Gellir parcio yn agos i’r orsaf fwydo a dewch a chadair campio gyda chi i gael gorffwys a phaned rhwng rhedwyr!

Byddwn yn gosod gazebo i fyny i’n cysgodi a bydd staff yn bresenol i arwain y dydd.
Felly dewch i ymuno yn yr hwyl, cymdeithasu gyd cyd-wirfoddolwyr a’n helpu i godi arian fydd yn mynd yn uniongyrchol tuag at waith a pharti dathlu Caru Eryri!

Lefel ffitrwydd - addas i bawb - dim cerdded.

Dyma ddolen sy'n dangos ysbryd y digwyddiad

https://www.instagram.com/marathoneryri/p/CzIznbatoSN/?img_index=1

 

Caru Eryri will be responsible for the Marathon Eryri feed station at Rhyd Ddu in 2024.

The marathon is an iconic local event that attracts thousands of runners to Eryri each year to tackle this great course.
Organised by a group of local volunteers, each feed station is run by a local organisations or club, who each receive a donation for running the station and helping the race take place, making it a true community event.

This year, the Caru Eryri crew will be responsible for the feed station at Rhyd Ddu!

All we need to do is turn up, set up the station and hand out plenty of water, sweets and cheers of support to the runners as they go past.
After all runners have passed through, we need to ensure everything is packed up, rubbish cleared and the place is left as if no-one has been there! 
It’s important to the race organisers that the race leaves no trace of the feed station or runners – so it fits well with our Caru Eryri ethos!

This is a fun, social day, and a good opportunity to meet up with fellow volunteers. 

You can park close to the feed station, and bring a camping chair, so we can take breaks and enjoy a cuppa in between all the cheering! 

We’ll set up the Gazeebo for shelter and there will be Caru Eryri staff present to lead the day also.

Come join in for a fun day, socialise with fellow volunteers and help us raise some funds that will go directly into the Caru Eryri work and party pot!

Fitness level - suitable for all – no walking necessary.

Here’s a link that shows the spirit of the event
https://www.instagram.com/marathoneryri/p/CzIznbatoSN/?img_index=1