Cymdeithas Eryri Snowdonia Society


I would like to volunteer

Fill in an application

Already use MyImpactPage.com to volunteer with this organization?
Log in to your account

Carneddau: Clirio llystyfiant / Vegetation clearance

 

Partneriaeth Tirwedd y Carneddau

Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn gasgliad o sefydliadau, gan gynnwys Cymdeithas Eryri,  dan arweiniad Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd y cynllun yn helpu i hyrwyddo dyfodol cadarnhaol i’r Carneddau drwy gynyddu dealltwriaeth a mwynhad o’i hanes, ei thraddodiadau diwylliannol a’i bywyd gwyllt.

Fel rhan o’r cynllun, nod y Gymdeithas yw cael gwared ar Jac y Neidiwr o’r Carneddau drwy drefnu diwrnodau gwirfoddolwyr, digwyddiadau hyfforddi a thrwy hwyluso grwpiau gweithredu cymunedol newydd a phresennol.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i glirio eithin a rhedyn o safleoedd archeolegol cofrestredig. Mae’r gwaith hwn yn datgelu ac yn cadw hanes cyfoethog y gadwyn o fynyddoedd, ac yn achos clirio eithin mae’n darparu mannau bwydo i’r frân goesgoch eiconig.

 

The Carneddau Landscape Partnership

 

The Carneddau Landscape Partnership is a collection of organisations, including Snowdonia Society, led by Snowdonia National Park. The scheme will help promote a positive future for the Carneddau by increasing understanding and enjoyment of its history, cultural traditions and wildlife. 

As part of the scheme the Society aims to eradicate Himalayan Balsam from the Carneddau by organising volunteer days, training events and by facilitating new and existing community action groups. 

The Society also works with the National Trust to clear gorse and bracken from scheduled archaeological sites. This work uncovers and preserves the rich history of the mountain range, and in the case of gorse clearance it provides feeding grounds for the iconic chough.

 

Activity Shifts Start End
Clirio Eithin/ Gorse Clearance​ Abergwyngregyn 1 10/27/2023 10/27/2023
Clirio Eithin/ Gorse Clearance​ Abergwyngregyn 1 10/13/2023 10/13/2023
Clirio Eithin/ Gorse Clearance​ Abergwyngregyn 1 10/20/2023 10/20/2023

Caru Eryri/ Care for Snowdonia

 

Caru Eryri: Gwneud gwahaniaeth yn 2023

Daeth torfeydd o bobl heb eu tebyg o’r blaen i Eryri y llynedd i fwynhau harddwch y Parc Cenedlaethol.

Bydd gwyliau o fewn y DU yn siŵr o fod yn boblogaidd eto yn 2023 felly mae’n bosibl y bydd Eryri yn fwy prysur eto.

Dyma pam fod angen eich cymorth chi arnom ni.

Mae Cymdeithas Eryri yn cydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal rhaglen wirfoddolwyr er mwyn helpu i reoli effeithiau ymwelwyr.

Y llynedd, gwelwyd timau o wirfoddolwyr yn crwydro’r ardal yn yr haf, yn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr, yn clirio sbwriel ac yn darparu cefnogaeth i wasanaethau prysur y Wardeniaid.

Cwblhawyd gwaith gwych gan y gwirfoddolwyr yma. Eleni mae angen mwy eto i ymuno â’r tîm. Ein nod yw darparu presenoldeb ar fwy o leoliadau dros gyfnod hirach er mwyn helpu mwy o ymwelwyr a chefnogi mwy o gymunedau lleol.

 

Care for Snowdonia: Make a difference in 2023

Unprecedented numbers of people visited Snowdonia last year, eager to enjoy the beautiful National Park.

‘Staycations’ will be massive again in 2023, so Snowdonia could be even busier.

This is why we need your help. 

Snowdonia Society is working with Snowdonia National Park Authority, the Outdoor Partnership and the National Trust to run a volunteer programme to help manage visitor impacts.

Last year, volunteer teams were out in high season, giving information to visitors, clearing litter and providing back-up for hard-pressed Warden services.

Those volunteers did a great job. This year an even bigger team is needed.  Our aim is to provide coverage at more locations over a longer season, so more visitors are helped and more local communities supported.

 

Activity Shifts Start End
‘Off the beaten path’ navigation beyond the footpath 0 12/1/2023 12/1/2023
Crib ogleddol Tryfan / The northern ridge of Tryfan, Mike Raine 0 10/27/2023 10/27/2023
Gweithdy Amgylcheddol Natur Eryri / Nature of Snowdonia Enviro Workshop gyda Mike Raine, Cwm Idwal 1 9/29/2023 9/29/2023
Her 3 Chopa Go Iawn/ Real 3 Peaks Challenge - Yr Wyddfa 1 10/14/2023 10/14/2023
Managing hazards and emergency procedures in the mountains 0 11/30/2023 11/30/2023
Nature of Snowdonia – Y Garn – Rhinogydd 0 10/26/2023 10/26/2023

Dwylo Diwyd/ Helping Hands

 

Dwylo Diwyd

Mae gwaith ein gwirfoddolwyr yn rhan o’r rhwydwaith sy’n cynnal ein Parciau Cenedlaethol. Mae ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig yn cyfrannu at raglenni tymor hir o waith hanfodol: cynnal llwybrau, rheoli rhywogaethau o blanhigion ymledol, clirio sbwriel, a rheoli cynefinoedd er budd bywyd gwyllt. Er bod lleihau difrod yn elfen hanfodol, mae’n fwy na hynny. Mae llawer o’n gwaith yn cynnwys gwella’n ymarferol ac mae ein rhaglen hyfforddi yn helpu i ysbrydoli ac ychwanegu at wybodaeth pobl a’u gwerthfawrogiad o Eryri, ei threftadaeth, ei chynefinoedd a’i bywyd gwyllt.

Ers ffurfio Cymdeithas Eryri dros 50 mlynedd yn ôl mae ein rhaglen gadwraeth ymarferol wedi mynd o nerth i nerth. Bellach rydym yn cynnal sawl gweithgaredd bob wythnos ac yn galluogi cannoedd o bobl i gyfrannu miloedd o oriau o’u hamser tuag at warchod Eryri bob blwyddyn. Mae gwirfoddolwyr yn cael cyfle i roi rhywbeth yn ôl i Eryri yn ogystal ag archwilio a mwynhau rhai o ardaloedd harddaf a mwyaf arbennig y wlad. Hefyd, maen nhw’n magu profiad ymarferol, gwybodaeth, hyder ac ystod o fedrau sy’n hybu’r posibilrwydd iddyn nhw gael eu cyflogi.

Helping Hands

The work done by our volunteers is part of the vital network that supports our National Parks. This dedicated team contributes to essential programmes of long-term work, such as maintaining footpaths, tackling invasive species, litter picking, and habitat management for the benefit of wildlife. Reducing damage is an essential aspect of our work, but we also go beyond that that. Much of our work involves bringing positive change, and our training programme helps inspire and enrich people’s knowledge and appreciation of Snowdonia, it’s heritage, habitats and wildlife.

Since the establishment of the Snowdonia Society over 50 years ago, our programme of practical conservation has gone from strength to strength. We now run a number of activities every week, enabling hundreds of people to contribute thousands of hours of their time to protecting Snowdonia each year. Volunteers gain the opportunity to give something back to Snowdonia, as well as being able to explore and enjoy some of the most beautiful and special parts of the country. They also get the chance to build practical skills, knowledge, confidence, and a range of skills which contribute to employability.

Activity Shifts Start End
Clirio Conwydd/Conifer Clearance - Ysbyty Ifan 1 10/5/2023 10/5/2023
Garddio yn Nhŷ Hyll / Gardening at the Ugly House, Betws y Coed 1 9/30/2023 9/30/2023
Garddio yn Nhŷ Hyll / Gardening at the Ugly House, Betws y Coed 1 10/24/2023 10/24/2023
Gofal Coed/ Tree Care - Hafod Garregog 1 9/28/2023 9/28/2023
Holly Clearance & Wreath Workshop/ Clirio Celyn a Creu Plethdorchau Nadolig​ 1 12/6/2023 12/6/2023
Plannu Coed/ Tree Planting, Cwm Mynach 1 11/1/2023 11/1/2023
Tynnu rhododendron / Rhododendron pulling, Ty'n y Coed 1 10/4/2023 10/4/2023

Llinellau yn y Tirwedd / Lines in the Landscape

Activity Shifts Start End
Hyfforddiant achrededig mewn cynnal a chadw llwybrau/ Accredited training in footpath maintenance, Llwybr Watkin path, Yr Wyddfa 1 10/11/2023 10/11/2023

Get Social

Mission Statement

 

Cymdeithas Eryri: Ymhyfrydu yn y Parc Cenedlaethol

Sefydlwyd Cymdeithas Eryri yn 1967 a’i nod yw gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â'r ardal, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae gwaith ein gwirfoddolwyr yn rhan o’r rhwydwaith sy’n cynnal ein Parciau Cenedlaethol. Mae ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig yn cyfrannu at raglenni tymor hir o waith hanfodol: cynnal llwybrau, rheoli rhywogaethau o blanhigion ymledol, clirio sbwriel, a rheoli cynefinoedd er budd bywyd gwyllt. Er bod lleihau difrod yn elfen hanfodol, mae’n fwy na hynny. Mae llawer o’n gwaith yn cynnwys gwella’n ymarferol ac mae ein rhaglen hyfforddi yn helpu i ysbrydoli ac ychwanegu at wybodaeth pobl a’u gwerthfawrogiad o Eryri, ei threftadaeth, ei chynefinoedd a’i bywyd gwyllt.

Ers ffurfio Cymdeithas Eryri dros 50 mlynedd yn ôl mae ein rhaglen gadwraeth ymarferol wedi mynd o nerth i nerth. Bellach rydym yn cynnal sawl gweithgaredd bob wythnos ac yn galluogi cannoedd o bobl i gyfrannu miloedd o oriau o’u hamser tuag at warchod Eryri bob blwyddyn. Mae gwirfoddolwyr yn cael cyfle i roi rhywbeth yn ôl i Eryri yn ogystal ag archwilio a mwynhau rhai o ardaloedd harddaf a mwyaf arbennig y wlad. Hefyd, maen nhw’n magu profiad ymarferol, gwybodaeth, hyder ac ystod o fedrau sy’n hybu’r posibilrwydd iddyn nhw gael eu cyflogi.

 

Snowdonia Society: Passionate about the National Park

The Snowdonia Society, established in 1967, is a member-based registered charity working to protect and enhance the beauty and special qualities of Snowdonia and to promote their enjoyment in the interests of all who live in, work in or visit the area both now and in the future.

The work of our volunteers is part of the network that keeps our National Parks going. Our team of dedicated volunteers contribute to long-term programmes of essential work: maintaining footpaths, controlling invasive plant species, clearing litter, and managing habitats for the benefit of wildlife. It isn’t all about damage limitation, though that is a vital element.  Much of our work involves practical enhancement and our training programme helps inspire and deepen people’s knowledge and appreciation of Snowdonia, its heritage, habitats and wildlife.

Since the Snowdonia society’s formation over 50 years ago our practical conservation programme has gone from strength to strength.  We now deliver several activities each week, enabling hundreds of people to give thousands of hours of their time towards looking after Snowdonia each year. Volunteers have the opportunity to give something back to Snowdonia and explore and enjoy some of the most beautiful and special areas in the country.  They also gain practical experience, knowledge, confidence and a range of skills which boost their employability.